Ciw-restr

Coroni Heddwch

Llinellau gan Y Frenhines (Cyfanswm: 26)

 
(1, 0) 130 Wele fi'n dyfod o alltudiaeth.
(1, 0) 131 O, chwi, a fu bobl i mi, ai eich ewyllys i gyd yw i mi eto gymryd yr orsedd?
 
(1, 0) 136 O, fy mhobl, oni fynnwch chwi gofio?
(1, 0) 137 Oni bu hyno'r blaen?
(1, 0) 138 Ai rhaid byth brynu doethineb â'r mawrbris hwn o boen?
(1, 0) 139 Hebof i, nid ŷch chwi ddim, a llwch yw gwaith eich dwylaw.
(1, 0) 140 Paham, gan hynny, y mae wanned eich ffyddlondeb?
(1, 0) 141 Paham y gwrthodir fy llywodraeth i?
(1, 0) 142 Paham y gyrr dynion fi o'u plith─i ddim ond dysgu eilwaith faint eu hangen amdanaf?
 
(1, 0) 146 Y cwbl sydd eiddof, yr wyf yn ei roddi i chwi.
(1, 0) 147 Dyma fy rhodd: bydd i'r mab ei ran o lafur ei dad, a dynion yn medi lle bu'r hau.
(1, 0) 148 Caiff y mab sychu dagrau'r fam, a hithau bwyso ar ei fraich gadarn.
(1, 0) 149 Cyferfydd y wyryf â'i chariad, a cherddant law yn llaw yn harddwch y byd.
(1, 0) 150 Chwery'r plentyn wrth y drws, ac ni syrth ar ei chwarae mwy ddim o'r cysgod na ŵyr ef amdano.
(1, 0) 151 Yn llawen y cymeraf yr Orsedd.
 
(1, 0) 155 Tasg a wnaed yn dda.
 
(1, 0) 157 Yn alltud hiraethus am fy lle fy hun, gan adnabod eich calonnau, gwyddwn eich bod yn y terfysg yn sibrwd fy enw i.
(1, 0) 158 Ac oblegid eich angen mawr, cyfododd y Gŵr Ieuanc a daeth i'm ceisio.
(1, 0) 159 Bellach, O fy mhobl, fel y rhoddwch i mi groeso, cofiwch mai rhodd y Gŵr Ieuanc yw'r rhodd yr wyf yn ei dwyn i chwi.
(1, 0) 160 Na threigled hynny gyda'r pethau a anghofir.
(1, 0) 161 Daeth ef i'm ceisio ar hyd ffordd gofidiau, lle y mae bob amser waed hyd y cerrig.
 
(1, 0) 185 Lleferwch!
(1, 0) 186 A ganiatewch chwi iddo ewyllys ei galon?
(1, 0) 187 A ddiorseddir fi gan air cynddaredd dyn?
(1, 0) 188 Ai rhaid dyfod un arall eto ryw ddydd ar hyd y ffordd drist i'm dwyn i yn f'ôl?
(1, 0) 189 Ai myfi, yn wir, yw Brenhines y Bobl?